Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

 

Dyddiad:                   9 Hydref 2014

 

Amser:                       14:30 -15:30            

 

Teitl:               Papur tystiolaeth ar y Gyllideb Ddrafft:

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

 

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth ariannol gefndirol i’r Pwyllgor ynghylch fy nghynlluniau gwario yn rhinwedd fy swydd fel y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – o ran y cyllidebau Diwylliant a Chwaraeon yn fy mhortffolio, fel yr amlinellir yn y Gyllideb Ddrafft.

 

2.    Mae Atodiad A yn rhoi manylion ffigurau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon, yn ôl Gweithred, ac yn ôl y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) fel rhan o bob Gweithred.

 

3.    Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth ar faterion cyllidebol penodol fel y nodir yn yr Atodiad i’r llythyr oedd yn fy ngwahodd i ddod i sesiwn y Pwyllgor. Caiff yr ymatebion eu cynnwys yn y papur tystiolaeth hwn.

 

Cefndir a Chrynodeb

 

4.    Gellir crynhoi ffigurau’r gyllideb ddrafft ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon fel a ganlyn:


 

 

Maes y Rhaglen Wariant

 

Cyllideb Atodol 2014-15 £’000

 

 

 

 

Cynlluniau Dangosol 2015-16 £’000

 

 

 

 

 

Newidiadau

2015-16

£’000

 

Cyllideb Ddrafft

 

2015-16

£’000

Refeniw:

 

 

 

 

Y Celfyddydau

33,408

33,158

-615

32,543

Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

37,045

36,695

-525

36,170

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

23,739

23,474

-291

23,183

Y Cyfryngau a Chyhoeddi

3,726

3,626

-100

3,526

Yr amgylchedd hanesyddol a naturiol

12,141

12,086

2,600

14,686

 

 

 

 

 

CYFANSWM REFENIW

110,059

109,039

1,069

110,108

 

 

 

 

 

Cyfalaf:

 

 

 

 

Y Celfyddydau        

355

355

0

355

Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

7,343

4,243

500

4,743

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

345

5,345

0

5,345

Y Cyfryngau a Chyhoeddi

25

25

35

60

Yr amgylchedd hanesyddol a naturiol

5,126

5,126

-725

4,401

 

 

 

 

 

CYFANSWM CYFALAF

13,194

15,094

-190

14,904

 

 

 

 

 

CYFANSWM CYLLIDEB DEL

123,253

124,133

879

125,012

 

 

 

 

 

Gwariant a Reolir yn Flynyddol (Darpariaethau pensiwn)

2,740

3,013

0

3,013

 

 

 

 

 

CYFANSWM Y GYLLIDEB

125,993

127,146

879

128,025

 

 

 

 

 

 

 

5. Mae ffigurau’r gyllideb refeniw yn cynnwys cyllideb ychwanegol nad yw’n arian parod o £3m ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.  Heb gynnwys hon, mae’r cyllidebau refeniw wedi gostwng 1.8% o’u cymharu â’r cynlluniau dangosol blaenorol, a 2.8% o’u cymharu â ffigurau’r Gyllideb Atodol ar gyfer 2014-15. Mae rhagor o fanylion i’w gweld isod.

 

Blaenoriaethau Cyllidebol

 

6.  Mae’r portffolio Diwylliant a Chwaraeon yn ganolog i’r nod sydd gan Lywodraeth Cymru o gyfoethogi bywydau unigolion a chymunedau trwy ein diwylliant, ein treftadaeth a chwaraeon trwy alluogi rhagor o bobl i’w mwynhau.  Yn ogystal, mae’r portffolio yn cyfrannu tuag at iechyd a lles, twf a swyddi, cyrhaeddiad addysgol, a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau, yn cynnwys mynd i’r afael â thlodi.

 

7.  Mae datblygu cynaliadwy yn greiddiol i bolisïau Diwylliant a Chwaraeon, gan gydbwyso anghenion byrdymor brys pobl Cymru a’u buddiannau hirdymor.  Er enghraifft, mae denu rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhan bwysig a hanfodol o ymgais y Llywodraeth gyfan i godi lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru a gwella iechyd a lles y genedl.

 

8. Wrth lunio cynigion y Gyllideb, rhoddwyd lle blaenllaw i’r blaenoriaethau a ganlyn:

 

·         cynyddu cyfraddau gweithgarwch corfforol er mwyn helpu i wella iechyd;

·         cryfhau cyfraniad y portffolio at yr economi; a

·         ceisio sicrhau bod rhagor o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn gwerthfawrogi diwylliant a threftadaeth ac yn cymryd rhan ynddynt gan gefnogi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

 

Newidiadau i’r cyllidebau - Refeniw

 

9.  O’u cymharu â ffigurau’r gyllideb atodol ar gyfer 2014-15, dyma’r prif newidiadau i’r cyllidebau ar gyfer 2015-16, yn dangos y gostyngiadau i gyllidebau (cyllidebau refeniw bron yn arian parod) y cyrff a ariannir o’r portffolio Diwylliant a Chwaraeon: 

 

 

 

Sefydliad

 

Cyllideb Atodol 2014-15 £’000

 

 

 

 

Cyllideb Ddrafft 2015-16 £’000

 

 

 

 

 

 

%

y gostyngiad

Refeniw (Bron yn Arian Parod):

 

 

 

Cyngor Celfyddydau Cymru

32,621

31,671

2.9

Amgueddfa Cymru

22,236

21,886

1.6

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

9,921

9,721

2.0

Chwaraeon Cymru

22,929

22,373

2.4

Cadw

9,110

8,820

3.2

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

1,962

1,807

7.9

Cyngor Llyfrau Cymru

3,726

3,526

5.4

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

660

650

1.5

 

 


Newidiadau i’r cyllidebau – Cyfalaf

 

10.  Mae’r dyraniadau ychwanegol a ganlyn wedi’u gwneud i gyllidebau cyfalaf:

 

 

Maes y Rhaglen Wariant

 

Cyllideb Atodol 2014-15 £’000

 

 

 

 

Cyllideb Ddrafft

2015-16

£’000

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

3,300

200

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

-        

5,000

 

 

 

Cyfanswm

3,300

5,200

 

11. Mae prosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n werth £3.5m, yn rhan o fuddsoddiad strategol ehangach yn seilwaith ffisegol a thechnegol y Llyfrgell yn dilyn y tân ym mis Ebrill 2013. Yn ogystal, bydd yr arian hwn yn galluogi’r Llyfrgell i ddatblygu ei chyfleusterau storio arbenigol er mwyn gwarchod casgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol a sicrhau eu bod yn dal ar gael i’w gweld.

 

12. Yn unol â’r flaenoriaeth i gynyddu cyfraddau gweithgarwch corfforol er mwyn gwella iechyd, bydd £5m yn cael ei ddyrannu yn 2015-16 tuag at Gynllun Benthyciadau Cyfalaf ar gyfer Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden.  Bydd y cynllun peilot newydd yn hwyluso mynd ati mewn ffordd strategol ac integredig i fuddsoddi cyfalaf trwy fuddsoddi-i-arbed.   Y nod yw sicrhau bod asedau a chyfleusterau chwaraeon a hamdden yn cael eu rheoli’n well a’u bod yn fwy effeithlon, annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a gwella iechyd pobl.

 

Gwariant a Reolir yn Flynyddol

 

13. Mae cyllidebau Gwariant a Reolir yn Flynyddol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw ffïoedd pensiwn a all fod yn angenrheidiol ar gyfer cynlluniau pensiwn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfanswm ar gyfer 2014-15 yn £2.740m, yn codi i £3.013m yn 2015-16. Cyllideb nad yw’n arian parod yw hon.

 

 

ATEBION I GEISIADAU’R PWYLLGOR AM WYBODAETH BENODOL

 

14. Dyma’r atebion i geisiadau’r Pwyllgor am wybodaeth benodol:

 

Adroddiad ar gyllideb y llynedd

 

15. Atodir copi o Linellau Gwariant y Gyllideb yn Atodiad A.

 

 

 

Ymrwymiadau’r Rhaglen Llywodraethu

 

16.  Gellir cyflenwi holl ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o’r gyllideb sydd ar gael. Mae’n fater o flaenoriaethu’r gwaith o’r cyllidebau’n gyffredinol.  Yn amlwg, bydd pwysau ar gyllidebau – yn enwedig gyllidebau Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyflawni rhai o’r ymrwymiadau.  Fodd bynnag, mae trafodaethau a gafodd fy swyddogion wedi pwysleisio y dylid rhoi blaenoriaeth i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Caiff hyn ei nodi’n glir yn y Llythyrau Cylch Gwaith y byddaf yn eu hanfon at y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

 

17. Mae gennym Gynllun Tystiolaeth Adrannol sy’n dangos yn fwy cyffredinol y gwaith ymchwil a gwerthuso sy’n gosod ein gwaith ni ar sylfaen o dystiolaeth. Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA) sy’n llywio’r ffordd yr ydym yn gweithio. Mae dull strategol yn cael ei ddatblygu i asesu i ba raddau rydym yn llwyddo i wella iechyd (gweithgarwch corfforol) a dysgu ac i leihau tlodi.  

 

18.  Caiff y ffordd yr ydym yn cyflawni’r ymrwymiadau a chanlyniadau hynny eu monitro wrth i ni symud ymlaen trwy’r flwyddyn.  Mae hyn yn cynnwys y cyfarfodydd y byddaf yn eu cael gyda Chadeiryddion a Phrif Weithredwyr y cyrff a noddir, a’r trafodaethau yn y Cyfarfodydd Monitro Chwarterol ar lefel swyddogion. Yna adroddir yr hyn a gyflawnwyd yn Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu. Cynhelir gwerthusiadau o dro i dro ac fel sy’n briodol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau a ddymunir yn cael eu gwireddu a bod y buddsoddiadau yn rhoi gwerth am arian.

 

Polisïau allweddol

 

Dyrannu’r gyllideb

 

19.  Cafwyd trafodaethau helaeth gyda’r sefydliadau sydd â’r dasg o gyflawni polisïau yn y portffolio Diwylliant a Chwaraeon fel rhan o’r broses o benderfynu ar ddyrannu’r gyllideb.  Trafodwyd y sefyllfa gyllidebol anodd gyda’r holl gyrff yn ystod cyfarfodydd ar lefel uchel.  Gofynnwyd i’r holl gyrff ddarparu gwybodaeth wedi’i seilio ar senarios ar gyfer gostwng eu cyllidebau – yn nodi beth fyddai’r effeithiau, yn cynnwys effeithiau ar gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ac unrhyw ystyriaethau o ran cydraddoldeb.  Mae’r cynigion wedi’u gwerthuso’n llawn er mwyn sicrhau arbedion, gan effeithio cyn lleied ag y bo modd ar wasanaethau a rhaglenni.

 

Gweithredu Strategaeth yr Amgylchedd Hanesyddol

 

20.  Mae’r gyllideb a ddyrennir ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol wedi’i gostwng fel a ganlyn:

 

 

2014-15

£m

2015-16

£m

% y gostyngiad

Refeniw – bron yn arian parod

11.072

10.627

-4.0

Dim yn arian parod

0.409

3.409

Dim yn berthnasol

Cyfalaf

5.031

4.306

-14.4

 

 

 

 

Cyfanswm

16.512

18.342

11.1

 

21. Mae’r gostyngiad o 4.0% yn y gyllideb refeniw bron yn arian parod ychydig yn fwy na’r gostyngiad cyfartalog o 3.3% ar draws y Prif Grŵp Gwariant (MEG).  Y prif reswm dros hyn yw’r dymuniad i weld incwm Cadw yn cynyddu.  Mae ffigwr y gyllideb o £11.072m ar gyfer 2014-15 a nodir uchod yn ffigwr net o gyllideb incwm Cadw o £5m.  Disgwylir y bydd ffigwr incwm y flwyddyn nesaf yn uwch gan y bydd y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi’i gwblhau. Mae hwn yn cynnwys datblygu cyfleusterau ymwelwyr, cynyddu cynlluniau marchnata a chodi prisiau mewn cofebau allweddol. Yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, bydd tua £5.3m, sy’n golygu mai dim ond tuag 1% yn llai na chyllideb eleni y byddai cyllideb refeniw gros y flwyddyn nesaf.

 

22.  Mae’r gyllideb gyfalaf wedi’i gostwng y flwyddyn nesaf gan y disgwylir y bydd y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi’i gwblhau eleni.  Caiff gofynion cyfalaf Cadw ar ôl 2015-16 eu hailasesu fel rhan o gylch cyllideb y flwyddyn nesaf.

 

23.  Nid oes costau ychwanegol yn codi o ganlyniad i’r Bil Treftadaeth yn 2015-16, ac eithrio costau staffio, gan na ddisgwylir i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol tan y gwanwyn 2016, a’i weithredu o flwyddyn ariannol 2016-17 ymlaen.

 

24.  Mae’r gyllideb a ddyrennir i Cadw yn cyfrannu at y canlyniadau a nodir yn fy Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol sef gwarchod ein treftadaeth ac yn annog mynediad, mwynhad a chymryd rhan gan y cyhoedd.  Bydd gweithgareddau a ariennir yn cyfrannu at ansawdd bywyd ac ansawdd lle, gan wella cyfleoedd bywyd pobl a helpu i fynd i’r afael â’r agenda trechu tlodi trwy ddatblygu sgiliau a chyfleoedd am hyfforddiant.

 

Y penderfyniad i beidio ag uno Cadw a’r Comisiwn Brenhinol ac effaith hynny wrth ddyrannu’r gyllideb

 

25. Nid yw’r penderfyniad i beidio ag uno Cadw a’r Comisiwn Brenhinol wedi cael effaith sylweddol ar y dyraniadau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.  Pe bai’r cyrff wedi’u huno, y bwriad yn fras oedd cyfuno cyllidebau’r ddau gorff a cheisio gwneud arbedion dros amser. Cafwyd gostyngiad o £250k (3.2%) ar gyfer Cadw, a £155k (7.9%) ar gyfer y Comisiwn Brenhinol. Fodd bynnag, y rheswm dros hyn yw’r angen i ganfod gostyngiadau yn y cyllidebau refeniw, ac nid y penderfyniad i beidio ag uno’r ddau gorff. Bu mwy o ostyngiad yng nghyllideb y Comisiwn Brenhinol gan mai gostyngiad o ddim ond £10k a gafwyd yn eu cyllideb y llynedd.

 

Dyraniadau Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

26.  Mae’r cyllidebau hyn wedi’u gwarchod i raddau i adlewyrchu’r ffaith eu bod yn sefydliadau cenedlaethol ac mai costau staffio yw tua 75% o’u costau – ac felly bod terfyn ar yr hyn y gallant ei wneud i ostwng eu costau.  Mae cynnig mynediad am ddim i’r sefydliadau hyn yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.  Mae cyllideb y Llyfrgell Genedlaethol wedi’i chadw ar y ffigwr a fwriadwyd ar gyfer 2015-16, sef gostyngiad o £200k (2.0%) o’i gymharu â 2014-15; a chyllideb Amgueddfa Cymru wedi’i gostwng £250k o’i gymharu â’r ffigwr a fwriadwyd, gan roi gostyngiad o gyfanswm o £350k (1.6%) o’i gymharu â 2014-15.

 

27. Ar ôl i gyllid CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru gael ei warchod yn llwyr y llynedd er mwyn gweithredu strategaethau cenedlaethol ar gyfer y sector, mae’r cyllid yn cael ei ostwng gyfanswm o £325k. Bydd y cyllid a fydd ar gael yn cael ei flaenoriaethu i ddatblygu dull o weithio mewn partneriaeth a gwasanaethau cynaliadwy i gynnal a datblygu’r gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr hyn. Mae Casgliad y Werin Cymru yn dal i gael ei gefnogi, ond gyda gostyngiad yn y cyllid i £100k (sy’n rhan o’r cyfanswm uchod).

 

Sut y mae’r ffaith bod yr angen yn parhau i fynd i’r afael â’r pethau sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan yn y celfyddydau ac i hyrwyddo’r cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau mewn ysgolion wedi effeithio ar y cyllid a ddyrennir ar gyfer y celfyddydau.

 

28.  Bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd am y celfyddydau, fel mewn meysydd eraill.   Fodd bynnag, mae’r gostyngiad yng nghyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2015-16 wedi’i gyfyngu i 2.9%, ac mae hyn yn adlewyrchu’r gwaith y bydd yn ei wneud yn gweithredu adolygiad Dai Smith o’r celfyddydau mewn addysg, ac yn datblygu rhan y celfyddydau yn mynd i’r afael â thlodi. 

 

29.  Gan fod dros 80% o gymorth grant Cyngor y Celfyddydau yn mynd tuag at gostau craidd y 72 o ‘Sefydliadau Refeniw’ sydd ganddo, mae’n amlwg y bydd y gostyngiad yn y gyllideb yn cael rhywfaint o effaith.   Fodd bynnag, dywedwyd yn glir wrth Gyngor y Celfyddydau yn eu Llythyr Cylch Gwaith bod gwella mynediad at y celfyddydau a lefelau cymryd rhan yn y celfyddydau yn dal yn ddwy o’m blaenoriaethau allweddol ar gyfer y Cyngor er gwaetha’r pwysau ar y gyllideb.

 

30.  Mae Cyngor y Celfyddydau hefyd yn un o ddosbarthwyr y loteri.  O dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 2006, ni chaiff dosbarthwyr ddefnyddio arian loteri i gymryd lle cyllid ‘a gollwyd’ oddi wrth y llywodraeth. Fodd bynnag, cânt ddefnyddio arian loteri i ychwanegu at gyllid y llywodraeth. Fel y cadarnhawyd mewn Datganiad ar y cyd â’r Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Gorffennaf, mae CCC wedi cytuno i neilltuo £10 miliwn o’i arian loteri, dros y pum mlynedd nesaf, tuag at ein Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Creadigol. Bydd hyn ar ben y £10m ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, o’r gyllideb Addysg.

 

Blaenoriaethau ar gyfer polisi darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru a sut yr adlewyrchir y rhain yn nyraniadau’r gyllideb

 

31. Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant cyhoeddi’n cael ei sianelu trwy Gyngor Llyfrau Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid tuag at y gwasanaeth newyddion ar-lein Cymraeg, Golwg 360, sy’n cael dros 8,000 o ymweliadau y dydd ar gyfartaledd, a chymorth i Golwg, Y Cymro a Barn sy’n gyhoeddiadau Cymraeg ym maes newyddion a materion cyfoes.

 

32. Bydd gostyngiad o £200k yng nghyllideb Cyngor Llyfrau Cymru yn 2015-16. Mae cylchgronau Saesneg mewn sawl maes, yn cynnwys materion cyfoes/diwylliant, yn cael cyllid gan y Cyngor Llyfrau hefyd. Mae trwydded y cylchgronau newydd gael ei hail-hysbysebu a bydd, unwaith eto, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cylchgrawn cyffredinol yn trafod materion Cymreig cyfoes. Bwriedir i’r gyllideb ar gyfer elfen y cyfryngau yng nghyllideb Cyngor Llyfrau Cymru gael ei gwarchod i raddau helaeth.

 

33. Mae ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ym maes darlledu yn mynd at gostau staff (a ariennir o Brif Grŵp Gwariant y Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu) yn hytrach nag arian rhaglenni o’r Prif Grŵp Gwariant.

 

Yr effaith a gafwyd hyd yma o ostwng cyllideb Cyngor Llyfrau Cymru ac atal cyllid y Gronfa Radio Cymunedol

 

Cyngor Llyfrau Cymru

 

34. Gwn fod dyraniad Cyngor Llyfrau Cymru yn gryn her gan eu bod yn ymdrechu i gynnal ansawdd ac amrywiaeth y llyfrau a gynhyrchir er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth orau bosibl i ddarllenwyr. Mae’n anorfod y bydd cyfyngiadau cyllidebol yn arwain at ostyngiad bychan yn nifer y llyfrau a gyhoeddir.

 

35. Hyd yma, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymdopi â’r gostyngiadau heb i hynny amharu ar werthiant llyfrau. Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith fod gwerthiant trwy Gyngor Llyfrau Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2013-14 wedi dangos cynnydd o 5% ar y flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd bychan yn y gwerthiant ar gyfer pum mis cyntaf eleni hefyd.

 

36. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn sefydliad cymharol fychan oddi mewn i bortffolio bychan ac mae’n rhaid iddo wneud y defnydd gorau o’i adnoddau, felly bydd gostyngiadau pellach yn ei gyllideb yn siwr o gael effaith ar y gwasanaethau y gall y Cyngor eu darparu. Fodd bynnag, rwy’n hyderus y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu dal ati i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yn y ddwy iaith.

 

Y Gronfa Radio Cymunedol

 

37. Sefydlwyd y Gronfa Radio Cymunedol yn 2008 i gydnabod y rhan bwysig y mae gorsafoedd radio cymunedol yn ei chwarae yn eu cymunedau.   Fe’i sefydlwyd fel cronfa bum mlynedd gyda’r nod penodol o helpu i dalu costau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol.  Gan mai cronfa bum mlynedd oedd hi, roedd i fod i ddod i ben yn 2012-13 ond penderfynwyd ei hymestyn am flwyddyn arall, gan roi cyfle i orsafoedd radio cymunedol i ymchwilio i ffynonellau ariannol eraill ac i baratoi at ddod yn hunangynhaliol ar ôl mis Mawrth 2014.

 

38. Yn ystod blwyddyn olaf y Gronfa, bu Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad agos â’r holl orsafoedd radio cymunedol a oedd yn cael grant gan y Gronfa gan sôn wrthynt am gyllid arall a allai fod ar gael gan Lywodraeth Cymru.   Rhoddwyd gwybod i’r gorsafoedd radio cymunedol am lansio’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar 3 Chwefror. Yn ogystal, cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar 22 Ionawr y byddai mudiadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau i gymunedau ledled Cymru yn elwa o £7.2 miliwn o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru eleni. Gallasai rhai gorsafoedd radio cymunedol fod yn gymwys i gael cyllid o’r cynlluniau hynny os oeddent yn bodloni’r meini prawf perthnasol.

 

39. Ym mis Chwefror 2014, cyhoeddodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ymgynghoriad ar radio cymunedol. Roedd yr argymhellion yn cynnwys:

 

·         codi’r cyfyngiadau sy’n atal rhai gorsafoedd radio cymunedol rhag ennill unrhyw incwm o hysbysebion ar yr awyr neu nawdd os ydynt yn gorgyffwrdd â thrwydded radio masnachol sy’n cyrraedd 150,000 neu lai o oedolion

·         codi’r cyfyngiadau sy’n atal gorsafoedd radio cymunedol rhag cymryd mwy na 50% o’u hincwm blynyddol o hysbysebion ar yr awyr a nawdd.

 

40. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad hwnnw trwy ddweud ei bod yn croesawu unrhyw gamau i lacio a/neu newid y cyfyngiadau mewn ffordd a fyddai’n helpu gorsafoedd radio cymunedol yr oedd y rheoliadau’n effeithio arnynt, fel y gallent barhau i gynnig gwasanaeth gwerthfawr yn eu cymunedau. Nid yw’r Adran wedi ymateb i’r ymgynghoriad hyd yma.

 

 

 

Chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol

 

41. Mae llythyr y Pwyllgor yn gofyn ‘Bearing in mind your comment to the Committee in June 2014 that the last year has seen ‘a significant reorientation in policy’ with regard to sport and active recreation, how has this been reflected in draft budget allocations?’

 

42. Mae’r dyraniad i gyllideb Chwaraeon Cymru yn adlewyrchu pwysigrwydd agenda chwaraeon a gweithgareddau corfforol.  Byddaf yn trafod gyda Chwaraeon Cymru sut y gallwn flaenoriaethu’r rhaglenni y maent yn eu cyflenwi, er mwyn cyflawni ein hamcan o gynyddu cyfranogiad, a sicrhau’r manteision a ddaw yn sgil hynny o ran gwella iechyd a lles.

 

43. Ar gyfer 2015-16, yn unol â’r flaenoriaeth o gael pobl i wneud mwy o weithgarwch corfforol er mwyn gwella iechyd, dyrennir £5m at Gynllun Benthyciadau Cyfalaf ar gyfer Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden.  Bydd y cynllun peilot newydd yn hwyluso mynd ati mewn ffordd strategol ac integredig i fuddsoddi cyfalaf trwy fuddsoddi-i-arbed.  Y nod yw sicrhau bod asedau a chyfleusterau chwaraeon a hamdden yn cael eu rheoli’n well a’u bod yn fwy effeithlon, annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a gwella iechyd pobl.

 

Pa waith rydych chi wedi’i wneud i fonitro a lleihau effaith y gostyngiad yng nghyllid llywodraeth leol ar y gwasanaethau lleol a gyflenwir ym maes eich portffolio (e.e. gwasanaethau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau; gwasanaethau chwaraeon a hamdden lleol; sefydliadau bach a thrydydd sector sy’n gweithio ym meysydd yr amgylchedd hanesyddol a’r celfyddydau)?

 

44. Mae holl awdurdodau lleol Cymru’n wynebu pwysau mawr iawn ar eu cyllidebau, yn enwedig wrth feddwl sut i barhau i gynnal gwasanaethau a chyfleusterau anstatudol.  Mater i’r awdurdodau lleol eu hunain yw sut i bennu eu cyllidebau ar gyfer gwasanaethau anstatudol ac nid oes gan Lywodraeth Cymru hawl i ymyrryd.

 

45. Mae’r awdurdodau lleol wedi’u hannog i roi ystyriaeth lawn i’r ffaith fod miloedd o bobl yn gwerthfawrogi gwasanaethau diwylliant, hamdden a chwaraeon a bod gwerth i’r gwasanaethau hynny.  Er fy mod yn sylweddoli bod pob awdurdod lleol yn wynebu heriau anodd, byddaf yn gweithio i hybu arferion gorau, o ran mynd ati i wneud penderfyniadau mewn ffordd gydgysylltiedig ac ystyried gwahanol fodelau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau. Mae llawer o awdurdodau wrthi’n gwneud hyn yn awr, er enghraifft trwy ffurfio – neu ystyried ffurfio – ymddiriedolaethau annibynnol a sefydliadau eraill nad ydynt yn dosbarthu elw (NPDOs).

 

 

Sut y mae cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth o’r iaith Gymraeg wedi dylanwadu ar ddyraniadau’r gyllideb.

 

46. Cynhaliwyd asesiadau effaith integredig eleni ar gyfer y llinellau cyllideb lle ceir y gostyngiadau mwyaf arwyddocaol yn y portffolio Diwylliant a Chwaraeon, sef Cyngor y Celfyddydau. Mae’r rhain, a’r asesiadau effaith a gynhaliwyd y llynedd ar gyfer yr holl linellau cyllideb lle gostyngwyd y cyllidebau, yn dangos ei bod yn annhebygol y bydd effeithiau anghymesur ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, nac ym maes cynaliadwyedd na’r iaith Gymraeg.

 

47.  Oherwydd natur fy mhortffolio, mae llawer o’r gwaith yn cael ei wneud gan y sefydliadau yr wyf yn eu hariannu.  Byddaf yn gofyn i’r cyrff hyn eto eleni, yn eu Llythyrau Cylch Gwaith a’u Llythyrau Cyllido, i sicrhau eu bod yn talu sylw llawn i ystyriaethau ynglŷn â chydraddoldeb. cynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg yn y penderfyniadau manwl y byddant yn eu gwneud wrth ddyrannu eu cyllidebau.

 

48. Gwneir gwaith monitro a gwerthuso mewn ffordd  bwrpasol ar gyfer y gweithgareddau unigol sydd ym meysydd polisi amrywiol fy mhortffolio.

 

Gwariant ataliol

 

49.  Yr enghraifft amlycaf o wariant ataliol yn fy mhortffolio i yw gwario i wella ffitrwydd corfforol. Mae tystiolaeth amlwg i gadarnhau’r cysylltiad rhwng ffitrwydd corfforol a disgwyliad oes iachus. Cymerwyd y ffactor hwn i ystyriaeth wrth benderfynu ar y gyllideb i’w dyrannu i Chwaraeon Cymru. Wrth gwrs, mae angen i ni barhau i wario’n fwy effeithiol yn y maes hwn ac i asesu i ba raddau y mae cynnydd mewn gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc yn cael ei gynnal weddill eu hoes, os yw’r gwariant wir am wireddu’r potensial o fod yn “ataliol” o ran lleihau gwariant cyhoeddus ar iechyd yn nes ymlaen yn eu hoes. Er bod byw bywyd iachach yn gwella disgwyliad oes iachus, sy’n amlwg yn rhinwedd fawr, mae hefyd yn bwysig cofio bod tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu nad oes sicrwydd y bydd hynny’n gostwng gwariant cyhoeddus ar iechyd yn yr hirdymor. Wrth gwrs, hyd yn oed os nad yw’n arbed arian, byddai hwyluso’r ffordd i bobl fyw bywydau iachach a hirach yn dal yn beth gwerth chweil i’w wneud.

 

50.  Hoffwn nodi rhai ffyrdd eraill y gallai gwariant yn fy mhortffolio fod yn ataliol hefyd:

 

·         Mae’r rhan fwyaf o elfennau fy mhortffolio (e.e. chwaraeon, y celfyddydau, llyfrgelloedd, treftadaeth a mynediad at yr amgylchedd hanesyddol a naturiol) yn debygol o gyfrannu at les meddyliol. Mae costau afiechyd meddwl i economi Cymru yn sylweddol. Mae Y Canllaw Cychwynnol ar gyfer Lles mewn Llyfrgelloedd yn amlygu’r cyfraniad a wneir at hybu iechyd a lles pobl ledled Cymru.Mae manteision iechyd cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau creadigol a diwylliannol trwy therapi celf a gweithdai o dan arweiniad artistiaid yn cael eu cydnabod yn helaeth yn y gwaith ymchwil ar yr effeithiau diwylliannol, ond ychydig o dystiolaeth sydd i ddangos a oes manteision i’w cael hefyd o gymryd rhan lai gweithredol, fel mynd i ddigwyddiadau celfyddydol.

 

·         Mae adroddiad Dai Smith “Y Celfyddydau ac Addysg” yn cyfeirio at y dystiolaeth ryngwladol y gall y celfyddydau gyfrannu at godi cyrhaeddiad addysgol, yn enwedig ymhlith plant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Gall amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth gyfrannu yn yr un modd. Mae helpu i godi cyrhaeddiad addysgol yn debygol o wella cyfleoedd pobl mewn bywyd ac felly gallai fod yn ataliol o ran gwariant cyhoeddus. Dyna un rheswm pam yr wyf yn gweithio i gynyddu cyfraniad y celfyddydau a threftadaeth at godi cyrhaeddiad addysgol, gan gydweithio â’r Gweinidog Addysg a Sgiliau mewn ymateb i Adroddiad Dai Smith ac Adroddiad y Farwnes Kay Andrews ar ddiwylliant a thlodi.

 

·         Mae gwaith Cadw gyda throseddwyr ifanc ac unedau cyfeirio disgyblion yn cyfrannu at amcanion Llywodraeth Cymru ym meysydd addysg a chyflogaeth. Mae addysg a llwyddiant i ennill sgiliau a chymwysterau yn cael eu cydnabod yn helaeth fel ffactorau pwysig sy’n cadw plant rhag troseddu, ac yn gwneud pobl yn llai tebygol o aildroseddu yn y tymor hwy.

 

Darpariaeth ar gyfer deddfwriaeth

 

51. Mae un Bil yn rhaglen ddeddfwriaethol y portffolio Diwylliant a Chwaraeon sy’n dod oddi mewn i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, sef y Bil Treftadaeth – cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu er mwyn datblygu fframwaith cyfreithiol a fydd yn sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei reoli a’i warchod yn well.  Os caiff y Bil ei basio, dyma fydd y ddeddfwriaeth gyntaf ym maes treftadaeth ar gyfer Cymru’n neilltuol. Disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno yn y gwanwyn 2015 ac i gael Cydsyniad Brenhinol yn y gwanwyn 2016, a’i weithredu o flwyddyn ariannol 2016/17 ymlaen.

 

52. Gwnaed asesiad cychwynnol o oblygiadau ariannol y Bil.  Mae’r cynigion deddfwriaethol wedi’u datblygu i sicrhau nad yw’r beichiau na’r dyletswyddau newydd ar lywodraeth leol, perchnogion asedau, busnesau ac aelodau’r cyhoedd yn fwy nag sydd raid. Mae’r rhan fwyaf o’r cynigion yn rhai dewisol neu heb oblygiadau ariannol y tu hwnt i’r rhai y gellir eu cyflawni trwy gyllidebau cyfredol yr adrannau, yn cynnwys staffio.  Mae’r gwaith ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a fydd yn cynnwys asesiad cynhwysfawr o’r goblygiadau ariannol, yn dod ymlaen yn dda. Ni fydd effaith uniongyrchol nac anuniongyrchol ar y gyllideb ym mlwyddyn ariannol 2015-16.

 

53. Ni wyddom am unrhyw effeithiau arwyddocaol ar gyllideb unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ym maes y portffolio.

 

Ken Skates AC,

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth